Parti ceiliog

Mae parti ceiliog[angen ffynhonnell] (hefyd penwythnos ceiliog, parti "stag" neu'r cyfieithiad benthyg parti hydd) yn barti neu benwythnos sy'n cael ei gynnal ar gyfer dyn sydd ar fin priodi. Ffrind neu frawd y priodfab sy'n trefnu parti ceiliog fel arfer, weithiau gyda chymorth cwmni cynllunio parti ceiliog. Mae'r cyfeiriadau cyntaf at bartïon ceiliog y Gorllewin yn yr Oxford English Dictionary yn dyddio o'r 19g. Yn draddodiadol, roedd partïon ceiliog yn cynnwys gwledd tei du a gynhaliwyd gan dad y priodfab a oedd yn cynnwys llwncdestun er anrhydedd i'r priodfab a'r briodferch.


Developed by StudentB